Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
12 Chwefror 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6082
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiwn 1 i 5 a 7 i 9. Tynnwyd cwestiwn 6 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 1 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.05
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7266 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r pryderon a fynegwyd gan gleifion a chlinigwyr ledled Cymru ynghylch perfformiad a dyfodol adrannau achosion brys y GIG.
2. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a allai arwain at roi terfyn ar wasanaethau 24 awr a gaiff eu harwain gan feddygon ymgynghorol yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymyrryd er mwyn atal unrhyw achos o israddio neu gau adrannau achosion brys yng Nghymru yn ystod y Cynulliad hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
17 |
0 |
34 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.
2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
Yr Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm Taf Morgannwg
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
23 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu cynllun cynhwysfawr ar gyfer cynyddu'r gweithlu clinigol, gyda ffocws penodol ar arbenigeddau ac ardaloedd daearyddol y mae'n anodd recriwtio iddynt, megis mewn adrannau achosion brys, fel na ellir byth ddefnyddio prinder staff i gyfiawnhau cau a newid gwasanaethau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
28 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Neil McEvoy (Canol De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
14 |
14 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Mick Antoniw (Pontypridd)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:
a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;
b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;
c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys.
Cyd-gyflwynwyr
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
33 |
18 |
0 |
51 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7266 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y datganiad trawsbleidiol ar Ddyfodol Gofal Brys Diogel yng Nghwm Taf Morgannwg.
2. Yn cydnabod yr angen i’r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw wrth ymgysylltu â’r cyhoedd, clinigwyr, y cyngor iechyd cymuned, cynrychiolwyr etholedig, staff a’u hundebau, i lywio eu penderfyniad ynghylch darparu pob math o ofal heb ei drefnu yn y dyfodol, gan gynnwys gwasanaethau brys.
3. Yn cydnabod bod yn rhaid i unrhyw ddarpariaeth gofal heb ei drefnu fod yn gadarn, yn ddiogel ac yn gynaliadwy.
4. Yn cefnogi adran damweiniau ac achosion brys barhaol gydag adnoddau llawn yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
5. Yn gwrthod cynigion gan Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg i ddod â gwasanaethau damweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i ben ac yn galw ar y Bwrdd Iechyd i:
a) diystyru cau'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg neu sefydlu uned mân anafiadau 24 awr yn lle'r gwasanaeth damweiniau ac achosion brys presennol;
b) adfer yr opsiwn o gynnal gwasanaeth damweiniau ac achosion brys llawn o dan arweiniad meddygon ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru;
c) cyflwyno cynigion eraill ar gyfer gwasanaethau iechyd cymunedol, gan gynnwys gwelliannau i'r gwasanaeth meddygon teulu y tu allan i oriau ac ymestyn oriau agor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ac Ysbyty Cwm Cynon, a allai leddfu'r pwysau ar bob un o'r tair adran damweiniau ac achosion brys.
Yr Ymgyrch dros Ofal Brys Diogel ar draws Cwm Taf Morgannwg
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
18 |
1 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Ni ddewiswyd unrhyw Gwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 16.11
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am Mis Hanes LGBT.
Dechreuodd yr eitem am 16.13
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7263 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod mwy a mwy o wasanaethau ar gael ar-lein yn
unig.
2. Yn cydnabod nad oes gan bawb fynediad i'r rhyngrwyd.
3. Yn cydnabod nad yw pawb yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r rhyngrwyd.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) sicrhau bod dewisiadau all-lein ar gael o ran gwasanaethau cyhoeddus ar-lein, megis gyda'r system adnewyddu tocynnau bws; a
b) trafod gyda banciau, busnesau a sefydliadau eraill i sicrhau nad yw cwsmeriaid yn cael eu hynysu os mai dim ond gwasanaethau ar-lein a gynigir.
Cyd-gyflwynwyr:
Angela
Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Janet
Finch-Saunders (Aberconwy)
Llyr
Gruffydd (Gogledd Cymru)
Sian
Gwenllian (Arfon)
Neil
Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
Vikki
Howells (Cwm Cynon)
Mark
Isherwood (Gogledd Cymru)
Delyth
Jewell (Dwyrain De Cymru)
Helen
Mary Jones (Canolbarth a Gorllewin
Cymru)
Dai
Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Cefnogir gan:
Suzy
Davies (Gorllewin De Cymru)
Huw
Irranca-Davies (Ogwr)
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
15 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 16.59
NDM7267 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a
Chymunedau, 'Gwaith dilynol ar gysgu ar y stryd - Gwasanaethau
iechyd meddwl a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau',
a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Rhagfyr
2019.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 17.46
Dechreuodd yr eitem am 17.50
NDM7268 Alun Davies (Blaenau Gwent)
Cymoedd technoleg, yr A465 a strategaeth ddiwydiannol ar gyfer cyflogaeth gynaliadwy ym Mlaenau'r Cymoedd.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.16
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 25 Chwefror 2020